A warm welcome to Dolswydd Caravan, camping and motorhome park
Dolswydd Caravan Park is an ideal touring base for the picturesque surrounding countryside and local attractions or for a one night stop en route to the coast, only one hour away.
Dolswydd is situated on the edge of a traditional working farm and common land. The park is peaceful and tranquil, with fine views of the welsh hills and has an abundance of local wildlife including Swans who visit daily, Red Kites, Buzzards, Otters, Ducks, Woodpeckers, Curlews, Hare and Mink.
It has modern facilities and 25 good spacious pitches mainly on hard standings, all with electric connections (16A). The park is within walking distance of the local pub which offers good home cooked food.
Mae'r teulu Hughes yn estyn croeso cynnes i bawb ym Maes Carafanau a Gwersylla Dolswydd, sydd yn lleoliad delfrydol i aros ynddo os ydych chi am grwydro'r ardal wledig brydferth sy'n ei amgylchynu, neu am ymweld â'r atyniadau lleol. Gallwch hefyd aros dros nos ar eich ffordd tuag at yr arfordir, sydd yn tua awr o daith o'r maes carafanau.
Saif Dolswydd ger fferm draddodiadol weithredol y teulu a thir comin. Mae'r maes carafanau yn heddychlon a thawel, gyda golygfeydd gwych o'r bryniau Cymreig, a digonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys elyrch sy'n ymweld yn ddyddiol, barcutiaid coch, boncathod, dyfrgwn, hwyiaid, cnocellod y coed, gylfinirod, ysgwarnog a minc.
Mae ganddo gyfleusterau modern a 25 safle gyda digonedd o le i bob carafán, y rhan fwyaf ar safle caled a phob un â chysylltiad trydan (16A). Mae'r maes o fewn pellter cerdded i'r dafarn leol sy'n cynnig bwyd cartref da.